Skip to main content

Canllaw ymarferol y gallwch ei ddarllen mewn 15 munud – a’i ddefnyddio am flynyddoedd!

Meddwl am sefydlu grŵp dynion? Gwych! Byddem wrth ein bodd yn gweld mwy o grwpiau dynion ledled Cymru.

Ledled Cymru, mae grwpiau eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r canllaw hwn yn rhannu awgrymiadau ymarferol, gwersi a ddysgwyd a chamau syml i’ch helpu i gychwyn.

Cefnogwyd drwy Gynllun Grantiau Bach Cymru ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed.

Cynghorion gwych ac anogaeth werthfawr

Yn ogystal â’r canllaw, fe welwch 2 awr o gynnwys fideo. Mae ‘O Brofiad…’ yn cynnwys hwyluswyr, gweithwyr proffesiynol a dynion sydd â phrofiad personol. Gobeithiwn y bydd eu straeon yn dod â’r canllaw yn fyw ac yn eich annog i roi cynnig arni! Os ydych o ddifrif ynglŷn â sefydlu grŵp, gwyliwch bob un ohonynt! Mae cymaint o gyngor gwych ac anogaeth i’w gael.

Gallwch ddewis cael isdeitlau yn Gymraeg neu yn Saesneg.